Click on a date in the calendar to display events.

Final NetMentor Transnational Meeting

Diwrnod yn y PT

Diwrnod yn y PT

Aeth naw o fenteuwyr o Quinta dos Inglesinhos (Lisbon APPACDM), ar wahoddiad wrth y Sefydliad PT, i ymweld â PT ar Fehefin 17, fel rhan o weithrediad mentora proffesiynol o dan y teitl ‘Diwrnod yn y PT’.

Un o prif nodau yr APPACDM yw hyrwyddo prif-ffrydio cymdeithasol i drigolion ag anableddau meddyliol, yn cyd-fynd â’r egwyddorion canlynol: Safoni, Addasu, Unigoliaeth a Ffyniant Personol. Mae APPACDM a PT wedi’u cysylltu drwy’r cywaith NetMentor, lle mae’r ddau yn bartneriaid, ynghyd â chynrychiolwyr o Gymru, Groeg a’r Eidal. Mae NetMentor wedi datblygu rhaglen e-fentora i gefnogi pobl o grwpiau cymdeithasol bregus, i’w cynorthwyo i integreiddio i’r farchnad lafur drwy hyfforddiant galwedigaethol. Mae NetMentor hefyd yn anelu at ganiatau i bobl sydd wedi cael anhawsterau ar eu cyrsiau hyfforddi galwedigaethol, neu rai sy’n ddi-waith, i gynnal cysylltiad gyda eu sefydliadau drwy’r e-fentora, er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu eu sgiliau ymhellach, ac i fod wedi’u cymell yn ddigonol i chwilio’n adeiladol am waith.

Roedd ymweliad y menteuwyr APPACDM â PT yn cyd-fynd yn llwyr ag amcanion y NetMentor. Darparwyd rhaglen amrywiol i’r menteuwyr ifanc ar yr ymweliad, gan ddechrau gyda sessiwn hyfforddi yn canolbwyntio ar gyfrifiaduron(chwilota ar y wê ayyb), ac yna symudwyd ymlaen at daith o amgylch y Ganolfan Monitro a Rheoli Rhwydwaith y PT, gan gynnwys sessiwn fywiog yn y SAPO (darparwyr rhyngrhwyd y PT).

Roedd yr ymweliad yn rhyngweithiol iawn, ac roedd y diddordeb a ddangoswyd gan y menteuwyr ifanc yn glir o’r nifer helaeth o gwestiynnau a ofynnwyd yn yr amryw leoliadau yr ymwelwyd â nhw, ac hefyd o’r ymateb ar yr holiadur gwerthuso a gwblhawyd ar ddiwedd y sessiwn. Derbyniodd bob menteuwr dystysgrif mynychiad, sy’n cyfri fel cyflawniad ychwanegol yn eu cwricwlwm ac sy’n eu cynorthwyo gyda eu hintegreiddiad i’r farchnad lafur. Gweler y lluniau sy’n cyd-fynd â’r stori yma.

Luís Apolinário
Fundação PT

A day in the PT

Creu Cerddoriaeth, Codi Arian, Diwedd ar y Tlodi!

‘Map o’r Affrig, dwy-fetr o uchder, wedi’i greu gan bobl ifanc o’r Raglen Gerddoriaeth Seiniau Dwyreiniol ar gyfer OXJAM – Mawrth 2009’.

Ym mis Mawrth 2009, trefnodd y bobl ifanc o’r Raglen Gerddoriaeth ‘Seiniau Dwyreiniol’ achlysur cerddoriaeth byw, fel rhan o’r ymgyrch ‘OXJAM’ cenedl-eang. Codwyd dros gant punt drwy godi tâl ar ffrindiau a theulu i gael mynediad i’r ‘gig’.

Bob blwyddyn, trefnir yr ymgyrch OXJAM gan yr elusen Oxfam. Y nod yw i ‘Greu Cerddoriaeth, Codi Arian a dodi Diwedd ar y Tlodi’. Mae’r arian a godir yn mynd tuag at waith datblygol yn yr Affrig.

Wrth baratoi ar gyfer yr achlysur, gweithiodd y grwp gydag artist lleol, Julian Lewis, i greu y map o’r Affrig sy’n ddwy-fetr o uchder. Mae’r gwaith-celf nawr yn cael ei arddangos yn y Ganolfan Ieuenctid Stadwen, lle mae’r bobl ifanc yn cwrdd bob nos Fawrth i ‘jamio’.

 

Mentora a Symudedd ar-lein.

Mae Symudedd yn agwedd o addysg a hyfforddiant galwedigaethol sy’n tyfu’n gyflym. Mae mwy a mwy o sefydliadau nawr yn edrych ar y ffenomena yma gyda llawer mwy o ddiddordeb a brwdfrydedd.

Er bod y lles o weithredu cynlluniau symudedd wedi dod yn amlwg ers tro, erys y cwestiwn canolog o hyd: sur orau i gynllunio, cyflawni a gwerthuso unryw fenter symudedd? Beth a ddylai staff addysgiadol wneud cyn, yn ystod ac wedi unryw fenter symudedd?

Mae Symudedd yn weithrediad allweddol i CSCS, darparwr hyfforddiant wedi’i gredydu gan y Llywodraeth Rhanbarthol yn Tuscany ac un o’r partneriaid yn y cywaith NetMentor Leonardo Da Vinci. Mae cymeryd-rhan yn y NetMentor wedi ysbrydoli CSCS i ddatblygu agwedd ar-lein i’w gynllun mentora, i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol sydd wedi’u cofrestru ar gynllun symudedd, naill ai fel rhaglen astudio-dramor neu fel lleoliad-gwaith.

Mae CSCS wedi datblygu llwyfan ar-lein i alluogi’r holl gyfranogwyr sy’n cymeryd-rhan mewn unryw flaengaredd symudedd i gyd-weithio, rhannu gwybodaeth, darparu cefnogaeth, a gwirio a gwerthuso cynnydd.

Diolch i’r cywaith NetMentor, mae integreiddio cynllun mentora, drwy gyfrwng y llwyfan yma, o fewn i unryw flaengaredd trawsgenedlaethol, wedi dod yn un o’r negeseuon allweddol y mae CSCS yn ymroddedig i’w lledaenu ar draws sefydliadau VET sy’n gweithio tuag at meithrin symudedd trawsgenedlaethol i fewn i’w harferion hyfforddi.

Cliciwch yma i dderbyn yr adroddiad llawn gan Stefano Tirati o CSCS (mae dogfen PDF yn agor mewn ffenestr newydd).

 

‘Troi arfer dda yn arfer bob-dydd' – Cynhadledd EOEF, Lisbon, Mawrth 2009

Ar y 18fed o Fawrth 2009, cyfarfu Don Hawkins (Coleg Gorseinon) a Janice Hall (Cynllun Troseddwyr Ifanc, Abertawe) gyda mentoriaid a mentuewyr o'r APPACDM Lisbon i amlinellu'r profiad o fentora yn y coleg a gyda'r Cynllun Troseddwyr Ifanc. Derbyniwyd y drafodaeth yn dda gan fenteuwyr, mentoriaid a thiwtoriaid.

Ar y 19eg a'r 20fed o Fawrth 2009, cyflwynwyd y NetMentor a'r PIP gan Janice Hall (Cynllun Troseddwyr Ifanc Abertawe) a Paula Lebre (Faculdade de Morticidade Humana) mewn gweithdy yn y gynhadledd yn Lisbon, “Cefnogaeth Cyfoediol a Gwaith Pontio”. Staffiwyd y stondin arddangosfa gan Don Hawkins a Marina Ferreira. Dangoswyd llawer o ddiddordeb a gwnaed nifer o gysylltiadau adeiladol. Mynychwyd y gynhadledd gan dros 80 o gyfranogwyr o nifer o wledydd Ewropeaidd.

‘Troi arfer dda yn arfer bob-dydd' – Cynhadledd EOE, Lisbon, Mawrth 2009


© The NetMentor Partnership

Website design and production by Adastra Education.
Adastra Education is a division of Adastra Cymru Ltd.